Sut i ddefnyddio'r swyddogaeth "Gwrando ar y Dudalen Hon"
Mae ReadSpeaker yn galluogi i'r testun ar y wefan gael ei ddarllen yn uchel i chi. Mae'n rhoi cymorth i chi os ydych chi'n cael trafferth darllen testun ar-lein. Drwy gael y testun wedi'i ddarllen yn uchel i chi, gallwch ddeall yr wybodaeth ar y wefan yn haws. Mae hyn yn gwneud y cynnwys yn fwy hygyrch a'r wefan yn fwy dymunol i ymweld â hi. Fel defnyddiwr, nid oes rhaid i chi lawrlwytho dim.
Sut mae'n gweithio?
Gwrandewch ar y prif gynnwys
Ar dudalennau gwe fe welwch naill ai fotymau ReadSpeaker fel hyn:
Neu ddolenni "Gwrando ar y Dudalen Hon".
I wrando ar gynnwys y dudalen, cliciwch y botwm 'chwarae' (saeth yn pwyntio i'r dde), neu'r ddolen "Gwrando ar y Dudalen Hon".
Mewn rhai achosion, bydd y ddolen yn galw'r botwm ReadSpeaker uchod (bydd yn rhaid i chi wasgu 'play'), mewn achosion eraill bydd yn dechrau darllen y cynnwys i chi ar unwaith.
Yn y naill achos neu'r llall, mae chwaraewr sain yn ymddangos (gweler y ddelwedd isod) ac mae ReadSpeaker yn dechrau darllen testun y dudalen we yn uchel.
Bydd y chwaraewr hwn yn aros ar ben y dudalen ac yn diflannu ar ôl i chi sgrolio i lawr. Fodd bynnag, bydd ReadSpeaker hefyd yn galw am ail chwaraewr sain ar waelod y sgrin:
A fydd yn parhau i fod yn weladwy wrth i chi sgrolio i lawr.
Yn y chwaraewr gallwch chi:
- Oedi/ailgychwyn y darlleniad
- Stopio'r darlleniad
- Defnyddio'r botymau 'neidio' (saethau dwbl) i lywio yn y sain
- Addasu'r sain
- Addasu'r cyflymder
- Cau'r chwaraewr
Gallwch hefyd agor is-ddewislen y chwaraewr:
sy'n rhoi'r opsiynau canlynol i chi:
- Agor y ddewislen gosodiadau
- Galluogi'r swyddogaeth 'enlarge text'
- Galluogi'r swyddogaeth 'click and listen'
- Defnyddio'r 'text mode'
- Defnyddio'r 'page mask'
- Clicio ar yr eicon 'download' i lawrlwytho'r ffeil sain
- Agor ffenestr naid 'detailed help'
Gallwch ddefnyddio tab/shift+tab i lywio y tu mewn i'r chwaraewr a phwyso enter i actifadu botwm neu ddolen benodol.
Gwrando ar y testun a ddewiswyd
Gallwch ddewis rhan o'r testun rydych chi am wrando arno ac yna pwyso'r botwm "Gwrando"
ffenestr naid sy'n ymddangos wrth ymyl pwyntydd y llygoden.
Pan fyddwch chi'n clicio ar y botwm "Gwrando" ffenestr naid, bydd chwaraewr sain yn ymddangos (gweler y ddelwedd isod) a bydd ReadSpeaker yn dechrau
darllen y testun rydych chi wedi'i ddewis.
Gosodiadau
Yn y ddewislen gosodiadau, gallwch chi wneud y canlynol:
- Dewis a ydych am i'r testun gael ei uwcholeuo wrth ei ddarllen
- Dewis a ydych am i'r testun gael ei uwcholeuo ar sail gair a brawddeg, brawddeg yn unig, neu air yn unig
- Dewis arddull a lliwiau ar gyfer yr uwcholeuo
- Ffurfweddu llwybrau byr bysellfwrdd ar gyfer y chwaraewr a'r ddewislen, yn ogystal â chwaraewr ffensetr naid a maint y ffont
- Dewis a ydych am i'r dudalen sgrolio'n awtomatig i ddilyn y testun sydd wedi'i uwcholeuo
- Galluogi a ffurfweddu'r botwm "Gwrando" ffenestr naid a ddangosir pan ddewisir testun
Ewch i wefan ReadSpeaker's am ragor o wybodaeth am destun i leferydd ar-lein.