Neidio i'r prif gynnwy
GIG Cymru

NHS Wales Listen website how to use Readspeaker

Sut i ddefnyddio'r swyddogaeth "Gwrando ar y Dudalen Hon"

Mae ReadSpeaker yn galluogi i'r testun ar y wefan gael ei ddarllen yn uchel i chi. Mae'n rhoi cymorth i chi os ydych chi'n cael trafferth darllen testun ar-lein. Drwy gael y testun wedi'i ddarllen yn uchel i chi, gallwch ddeall yr wybodaeth ar y wefan yn haws. Mae hyn yn gwneud y cynnwys yn fwy hygyrch a'r wefan yn fwy dymunol i ymweld â hi. Fel defnyddiwr, nid oes rhaid i chi lawrlwytho dim.

Sut mae'n gweithio?

Gwrandewch ar y prif gynnwys

Ar dudalennau gwe fe welwch naill ai fotymau ReadSpeaker fel hyn:
Botwm gwrando
Neu ddolenni "Gwrando ar y Dudalen Hon".

I wrando ar gynnwys y dudalen, cliciwch y botwm 'chwarae' (saeth yn pwyntio i'r dde), neu'r ddolen "Gwrando ar y Dudalen Hon".
Mewn rhai achosion, bydd y ddolen yn galw'r botwm ReadSpeaker uchod (bydd yn rhaid i chi wasgu 'play'), mewn achosion eraill bydd yn dechrau darllen y cynnwys i chi ar unwaith.

Yn y naill achos neu'r llall, mae chwaraewr sain yn ymddangos (gweler y ddelwedd isod) ac mae ReadSpeaker yn dechrau darllen testun y dudalen we yn uchel.
Rheolyddion botwm gwrando
Bydd y chwaraewr hwn yn aros ar ben y dudalen ac yn diflannu ar ôl i chi sgrolio i lawr. Fodd bynnag, bydd ReadSpeaker hefyd yn galw am ail chwaraewr sain ar waelod y sgrin:
Rheolyddion botwm gwrando mini
A fydd yn parhau i fod yn weladwy wrth i chi sgrolio i lawr.

Yn y chwaraewr gallwch chi:

  • Oedi/ailgychwyn y darlleniad
  • Stopio'r darlleniad
  • Defnyddio'r botymau 'neidio' (saethau dwbl) i lywio yn y sain
  • Addasu'r sain
  • Addasu'r cyflymder
  • Cau'r chwaraewr

Gallwch hefyd agor is-ddewislen y chwaraewr:
Rheolyddion gosod mini
sy'n rhoi'r opsiynau canlynol i chi:

  • Agor y ddewislen gosodiadau
  • Galluogi'r swyddogaeth 'enlarge text'
  • Galluogi'r swyddogaeth 'click and listen'
  • Defnyddio'r 'text mode'
  • Defnyddio'r 'page mask'
  • Clicio ar yr eicon 'download' i lawrlwytho'r ffeil sain
  • Agor ffenestr naid 'detailed help'

Gallwch ddefnyddio tab/shift+tab i lywio y tu mewn i'r chwaraewr a phwyso enter i actifadu botwm neu ddolen benodol.

Gwrando ar y testun a ddewiswyd

Gallwch ddewis rhan o'r testun rydych chi am wrando arno ac yna pwyso'r botwm "Gwrando" ffenestr naid sy'n ymddangos wrth ymyl pwyntydd y llygoden. Pan fyddwch chi'n clicio ar y botwm "Gwrando" ffenestr naid, bydd chwaraewr sain yn ymddangos (gweler y ddelwedd isod) a bydd ReadSpeaker yn dechrau darllen y testun rydych chi wedi'i ddewis.
Botwm gwrando naid

Gosodiadau

Yn y ddewislen gosodiadau, gallwch chi wneud y canlynol:

  • Dewis a ydych am i'r testun gael ei uwcholeuo wrth ei ddarllen
  • Dewis a ydych am i'r testun gael ei uwcholeuo ar sail gair a brawddeg, brawddeg yn unig, neu air yn unig
  • Dewis arddull a lliwiau ar gyfer yr uwcholeuo
  • Ffurfweddu llwybrau byr bysellfwrdd ar gyfer y chwaraewr a'r ddewislen, yn ogystal â chwaraewr ffensetr naid a maint y ffont
  • Dewis a ydych am i'r dudalen sgrolio'n awtomatig i ddilyn y testun sydd wedi'i uwcholeuo
  • Galluogi a ffurfweddu'r botwm "Gwrando" ffenestr naid a ddangosir pan ddewisir testun

Gosodiadau amlygu testun

Llwybrau byr bysellfwrdd chwaraewr

Llwybrau byr bysellfwrdd dewislen

Llwybrau byr bysellfwrdd ffont

Gosodiad rheoli chwaraewr

Ewch i wefan ReadSpeaker's am ragor o wybodaeth am destun i leferydd ar-lein.